Croeso i'n gwefan ar gyfer cynigion Fferm Wynt Lluest y Gwynt, yn agos i bentref Ponterwyd, i'r dwyrain o Aberystwyth, Ceredigion.
Fe wnaethom gynnal digwyddiadau ymgynghori anffurfiol ar y cynlluniau yn 2020 a 2021, ac Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio rhwng 11 Rhagfyr 2024 a 12 Chwefror 2025. Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi helpu i siapio’r cynlluniau hyd yn hyn.
Rydym wedi cyflwyno Cais Cynllunio ar gyfer Fferm Wynt Lluest y Gwynt yn ddiweddar. Mae’r cais bellach yn cael ei wirio gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW). Byddwn yn diweddaru’r gymuned leol pan fydd PEDW wedi derbyn y cynlluniau a’u lanlwytho i’r porth.
Hyd at 12 tyrbin
Uchafswm uchder pen blaen rhwng 150m a 180m
Capasiti gosodedig o 50.4MW
Datblygiad sy'n gyfwerth â phweru dros 33,000 o gartrefi*
Mae'r man cysylltu â'r grid tua 7km i'r de-orllewin o'r prosiect
* Yn seiliedig ar ddefnydd aelwydydd cyfartalog ar gyfer Powys/Ceredigion, sef 5000kWh (Defnydd Ynni yng Nghymru, 2020)