Cymraeg
Argae Nant y Moch, Rheidol

Amdanom ni

Mae Fferm Wynt a Chysylltiad Grid Lluest y Gwynt yn gynnyrch partneriaeth rhwng Statkraft ac Eco2.

Gwybodaeth am Statkraft

Statkraft yw cynhyrchydd ynni adnewyddadwy mwyaf Ewrop, ac mae’r cwmni’n gweithredu’n fyd-eang yn y farchnad ynni. Ers 2006, mae Statkraft wedi bod yn ganolog i drawsnewidiad ynni’r DU, gan fagu profiad ym meysydd ynni gwynt, ynni’r haul, ynni dŵr, storio, sefydlogrwydd y grid, gwefru cerbydau trydan, hydrogen gwyrdd a busnes marchnadoedd sy’n ffynnu. 

Mae Statkraft yn gyfrifol am bedair fferm wynt ar y tir yn y DU, gan gynnwys Fferm Wynt Alltwalis yn Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â Gwaith Pŵer Trydan Dŵr Rheidol, lle mae Statkraft yn falch o reoli’r holl asedau gweithredol. Mae Statkraft wrthi’n datblygu prosiectau eraill yng Nghymru hefyd, megis Parc Grid Gwyrddach Abertawe, a fferm solar Alleston yn Sir Benfro.

Mae Statkraft wedi buddsoddi £1.4 biliwn yn seilwaith ynni adnewyddadwy’r DU ac wedi hwyluso dros 4.3 GW o gynhyrchiant ynni adnewyddadwy mewn adeiladau newydd drwy Gytundebau Prynu Pŵer. Mae grŵp Statkraft yn cyflogi dros 550 o staff yn ein busnesau yn y DU, gan gynnwys 29 yng Nghymru. Fe wnaethom agor swyddfa newydd yng Nghaerdydd yn 2023 sy’n parhau i dyfu.

Gwybodaeth am Eco2

Sefydlwyd Eco2 yn 2002 ac mae’n datblygu ynni adnewyddadwy annibynnol yng Nghymru sydd ar flaen y gad o ran datrysiadau ynni cynaliadwy. Gyda phortffolio amrywiol a chapasiti gosodedig cyfunol o 289 MW, mae Eco2 wedi creu 1,169 o swyddi ac yn cyfrannu at arbed 760,000 tunnell o CO2 bob blwyddyn.

Mae datblygiadau nodedig Eco2 yn cynnwys Ffatri Bio-ynni 40MW Margam, sy’n weithredol ers 2019, ac yn cyflogi 30 o bobl yn uniongyrchol ac yn cefnogi 50 ym maes cyflenwi tanwydd. Hefyd, mae Fferm Wynt 34.5 MW Mynydd y Betws, ger Rhydaman, wedi cefnogi dros 50 o fentrau a arweinir gan y gymuned drwy ei chronfa budd cymunedol.