Os caiff ei gymeradwyo, bydd datblygiad Fferm Wynt a Chysylltiad Grid Lluest y Gwynt yn darparu pecyn buddsoddi cynaliadwy arloesol, a fydd ar gael gydol oes y prosiect. Bydd gwerth y pecyn hwn yn seiliedig ar £5,000 fesul MW a osodir (wedi’i gysylltu â’r Mynegai Prisiau Manwerthu).
Yn ystod ein proses ymgysylltu ac ymgynghori ar gyfer Fferm Wynt a Chysylltiad Grid Lluest y Gwynt, rydym wedi gweithio gyda thrigolion a sefydliadau er mwyn siapio ein buddsoddiad yn y gymuned mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.
Rydym yn croesawu syniadau gan y gymuned leol am sefydliadau cymunedol penodol a allai elwa o’r gronfa budd cymunedol.