Ar waith: 11 Medi 2019
Lluest y Gwynt Wind Farm Ltd. (“ni”, “ein”) sy’n gweithredu gwefan http://www.lygwindfarm.co.uk (y “Gwasanaeth”).
Mae’r dudalen hon yn esbonio ein polisïau casglu, defnyddio a datgelu data personol pan fyddwch chi’n defnyddio ein Gwasanaeth a’r dewisiadau sydd gennych chi’n gysylltiedig â’r data hwnnw.
Rydym ni’n defnyddio’ch data i ddarparu’r Gwasanaeth a’i wella. Trwy ddefnyddio’r Gwasanaeth, rydych chi’n cytuno inni gasglu a defnyddio’r wybodaeth hon yn unol â’r polisi hwn. Oni nodir fel arall yn y Polisi Preifatrwydd hwn, mae’r termau a ddefnyddir yn y Polisi Preifatrwydd hwn yn golygu’r un peth â’n hamodau a thelerau sydd ar gael yn http://www.lygwindfarm.co.uk
Casglu a defnyddio gwybodaeth
Rydym yn casglu sawl math gwahanol o wybodaeth at wahanol ddibenion i ddarparu a gwella ein Gwasanaeth i chi.
Mathau o ddata sy’n cael eu casglu
Data Personol
Wrth ddefnyddio ein Gwasanaeth, efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu peth gwybodaeth amdanoch y gellir ei defnyddio i’ch adnabod neu gysylltu â chi (“Data Personol”). Mae gwybodaeth o’r fath yn cynnwys, ond heb ei chyfyngu i:
Data Defnydd
Hwyrach y byddwn hefyd yn casglu data am sut mae pobl yn cyrchu ac yn defnyddio’r Gwasanaeth (“Data Defnydd”). Gallai’r data hwn gynnwys gwybodaeth fel cyfeiriad IP eich cyfrifiadur, math o borwr, pa dudalennau yn ein Gwasanaeth rydych chi’n ymweld â nhw, amser a dyddiad eich ymweliad, faint o amser rydych chi’n ei dreulio ar y tudalennau hynny, dulliau adnabod unigryw’r ddyfais a data diagnostig eraill.
Data Olrhain a Chwcis
Rydym yn defnyddio cwcis a thechnolegau olrhain tebyg er mwyn tracio gweithgareddau ein Gwasanaeth a chadw gwybodaeth benodol.
Ffeiliau ag ychydig o ddata a allai gynnwys dyfais adnabod anhysbys unigryw yw Cwcis. Mae gwefan yn anfon Cwcis i’ch porwr ac yn eu storio ar eich dyfais. Mae’r technolegau olrhain eraill a ddefnyddir yn cynnwys ‘beacons’, tagiau, a sgriptiau er mwyn casglu a thracio gwybodaeth ac er mwyn gwella a dadansoddi ein Gwasanaeth.
Gallwch gyfarwyddo’ch porwr i wrthod pob cwci neu nodi bob tro mae’n anfon cwci. Os nad ydych chi’n derbyn cwcis, fodd bynnag, efallai na fyddwch chi’n gallu defnyddio rhai rhannau o’n Gwasanaeth.
Enghreifftiau o Gwcis rydym ni’n eu defnyddio:
Defnyddio Data
Mae Lluest y Gwynt Wind Farm Ltd. yn defnyddio’r data a gasglwyd at ddibenion amrywiol:
Trosglwyddo Data
Efallai y caiff eich gwybodaeth, gan gynnwys Data Personol, ei throsglwyddo i – a’i chadw ar – gyfrifiaduron y tu allan i’ch sir, gwlad neu unrhyw awdurdodaeth lywodraethol arall lle mae’r deddfau diogelu data o bosib yn wahanol i rai’ch awdurdodaeth chi.
Os ydych chi’n byw y tu allan i’r DU ac yn dewis darparu gwybodaeth i ni, cofiwch ein bod ni’n trosglwyddo’r data, gan gynnwys Data Personol, i’r DU ac yn ei brosesu yno.
Mae’ch cydsyniad i’r Polisi Preifatrwydd hwn ar ôl i chi gyflwyno’r cyfryw wybodaeth yn cynrychioli’ch cytundeb i’r trosglwyddiad hwnnw.
Bydd Lluest y Gwynt Wind Farm Ltd. yn cymryd pob cam rhesymol ac angenrheidiol i sicrhau bod eich data’n cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â’r Polisi Preifatrwydd hwn, ac na fydd eich Data Personol yn cael ei drosglwyddo i sefydliad neu wlad oni bai bod rheolaethau priodol ar waith gan gynnwys diogelwch eich data a gwybodaeth bersonol arall.
Datgelu Data
Gofynion cyfreithiol
Gall Lluest y Gwynt Wind Farm Ltd. ddatgelu’r data personol gan gredu’n ddidwyll fod cam o’r fath yn angenrheidiol:
Diogeledd Data
Mae diogeledd eich data yn bwysig i ni, ond cofiwch nad yw unrhyw ddull o drosglwyddo dros y rhyngrwyd, neu ddull o storio electronig 100% yn ddiogel. Er ein bod yn ymdrechu i ddefnyddio dulliau masnachol-dderbyniol o ddiogelu’ch Data Personol, ni allwn warantu ei ddiogeledd yn llwyr.
Darparwyr Gwasanaeth
Efallai y byddwn yn cyflogi cwmnïau ac unigolion trydydd parti i hwyluso ein Gwasanaeth (“Darparwyr Gwasanaeth”), i ddarparu’r Gwasanaeth ar ei rhan, i gyflawni gwasanaethau cysylltiedig â’r Gwasanaeth neu er mwyn ein helpu i ddadansoddi sut mae’r Gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio.
Mae’r trydydd partïon hyn yn cael mynediad i’ch Data Personol dim ond er mwyn cyflawni’r tasgau hyn ar ein rhan, ac mae rhwymedigaeth arnynt i beidio â’i ddatgelu na’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.
Dolenni cyswllt i wefannau eraill
Efallai y bydd ein Gwasanaeth yn cynnwys dolenni i wefannau eraill nad ydynt yn cael eu rheoli gennym. Os byddwch chi’n clicio ar ddolen trydydd parti, byddwch yn cael eich cyfeirio at wefan y trydydd parti hwnnw. Dylech adolygu Polisi Preifatrwydd pob gwefan yr ewch iddi.
Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros wefannau neu wasanaethau trydydd parti, ac nid ydym yn ysgwyddo unrhyw gyfrifoldeb dros eu cynnwys, eu harferion na’u polisïau preifatrwydd.
Preifatrwydd plant
Nid yw ein Gwasanaeth yn cyfeirio at unrhyw un dan 18 oed (“Plant”).
Nid ydym yn fwriadol yn casglu gwybodaeth bersonol gan unrhyw un dan 18 oed. Os ydych chi’n rhiant neu’n warcheidwad, ac yn ymwybodol o’r ffaith fod eich Plant wedi darparu data personol i ni, cysylltwch â ni. Os daw i’r amlwg ein bod wedi casglu data personol gan blant heb ddilysu caniatâd y rhieni, byddwn yn cymryd camau i dynnu’r wybodaeth honno o’n gweinyddion.
Newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn
Gallem ddiweddaru ein Polisi Preifatrwydd o bryd i’w gilydd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi trwy bostio’r Polisi Preifatrwydd newydd ar y dudalen hon.
Byddwn yn rhoi gwybod trwy neges e-bost a/neu neges amlwg ar ein Gwasanaeth cyn y daw’r newid i rym, ac yn diweddaru’r “dyddiad gweithredu” ar dop y Polisi Preifatrwydd hwn.
Cofiwch adolygu’r Polisi Preifatrwydd hwn am unrhyw newidiadau o bryd i’w gilydd. Bydd y newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd hwn yn dod i rym pan fyddant wedi’u postio ar y dudalen hon.
Cysylltu â ni
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y Polisi Preifatrwydd hwn, cysylltwch â ni: