Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned leol ac ymgyngoreion statudol, ers dros chwe blynedd i ddatblygu cynigion sy’n cynnig buddion i’r ardal leol, economi Cymru a’r amgylchedd.
Ym mis Gorffennaf 2025, fe wnaethom gyflwyno’r cais cynllunio ar gyfer Fferm Wynt Lluest y Gwynt i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW). Mae PEDW bellach wedi derbyn y cais a bydd nawr yn dechrau archwilio ein cynigion yn fanwl, cyn gwneud argymhelliad i Lywodraeth Cymru.
Gallwch weld a rhoi sylwadau ar y cais cynllunio llawn ar wefan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, gan ddefnyddio’r cyfeirnod DNS/3246727. Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau ar y cais yw dydd Mercher 10 Mehefin 2026.
Dywedwch wrth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru eich bod yn cefnogi’r cynigion drwy lenwi eich neges eich hun yn y ffurflen gyswllt gyferbyn.
Does dim rhaid i’ch neges fod yn hir ond gallwch ddangos eich cefnogaeth trwy ysgrifennu am y pwyntiau canlynol:
* Ar sail defnydd cyfartalog aelwydydd ym Mhowys/Ceredigion o 5000 kWh (Defnydd Ynni yng Nghymru, 2020)